Beth mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ei ddweud wrthym hyd yma?

Cyhoeddwyd 13/12/2022   |   Amser darllen munudau

Rhyddhawyd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ym mis Mehefin gyda manylion am amcangyfrifon wedi’u talgrynnu ar gyfer y boblogaeth ac aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae data’r Cyfrifiad yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r diffyg ymateb amcangyfrifedig ac felly mae canlyniadau cyhoeddedig yn ymwneud â’r boblogaeth breswyl arferol gyfan fel ag yr oedd ar 21 Mawrth 2021. Mae'r canlyniadau'n cael eu rhyddhau yn ôl themâu pwnc. Mae’r data ar ddemograffeg a mudo, Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU, grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd eisoes wedi'u rhyddhau. Cafodd y data ar y Gymraeg a’r farchnad lafur a theithio i'r gwaith eu rhyddhau yr wythnos diwethaf. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y canfyddiadau allweddol o bob un o'r pynciau hyn ac yn egluro pryd y bydd y data sy'n weddill yn cael eu cyhoeddi.

Amcangyfrifon y boblogaeth ac aelwydydd

Mae ein herthygl flaenorol Faint o bobl sy'n byw yng Nghymru? yn egluro yr amcangyfrifwyd mai poblogaeth breswyl arferol Cymru ar 21 Mawrth 2021 oedd 3,107,500. Mae hyn yn gynnydd o 44,000 (1.4 y cant) ers Cyfrifiad 2011.

Roedd gan Gasnewydd (9.5 y cant) y twf poblogaeth uchaf ers 2011, ac yna Caerdydd (4.7 y cant) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.5 y cant). Gwelodd saith awdurdod lleol ostyngiad yn y boblogaeth, y mwyaf oedd Ceredigion (5.8 y cant), Blaenau Gwent (4.2 y cant) a Gwynedd (3.7 y cant).

Mae nifer y bobl mewn grwpiau oedran hŷn yn parhau i gynyddu. Yn 2011, roedd 18.4 y cant (562,544) o'r boblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn. Yn 2021 roedd hyn wedi cynyddu i 21.3 y cant (662,000).

Iaith

Roedd 2.9 miliwn o breswylwyr arferol tair oed a throsodd yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith (96.7 y cant o'r boblogaeth). Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin ar ôl Cymraeg neu Saesneg ar 0.7 y cant o'r boblogaeth ac yna Arabeg (0.3 y cant). Iaith Arwyddion Prydain oedd prif iaith 900 (0.03 y cant) o breswylwyr arferol tair oed a throsodd ledled Cymru.

Yng Nghymru gofynnwyd i bobl a oedd eu prif iaith yn unrhyw beth heblaw Cymraeg neu Saesneg. Felly, nid oes modd pennu faint o bobl yng Nghymru sy’n ystyried y Gymraeg fel eu prif iaith. Mae cwestiwn ar wahân yn holi pobl Cymru ynghylch eu gallu yn y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn y Cyfrifiad yn seiliedig ar hunanasesiad unigolyn o'i allu. Mewn rhai achosion, roedd gallu yn y Gymraeg yn cael ei adrodd gan unigolyn arall ar yr aelwyd, fel arfer ar ran plant. Yn 2021 amcangyfrifwyd bod 538,300 o breswylwyr arferol tair oed neu’n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg (17.8 y cant o’r boblogaeth). Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011, ac 1.2 pwynt canran yn is nag yn 2011. Mae canran y bobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yr isaf a gofnodwyd erioed mewn Cyfrifiad.

Mae datganiad ystadegol Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn:

Mae'r gostyngiad yn nifer a chanran y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn nifer a chanran y plant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Yr ardaloedd gyda'r cyfrannau uchaf o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg oedd Gwynedd (64.4 y cant) ac Ynys Môn (55.8 y cant). Gostyngodd canran y bobl tair oed neu hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg ym mhob awdurdod lleol ar wahân i Gaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae MapDataCymru wedi cyhoeddi map rhyngweithiol yn dangos yr Iaith Gymraeg: Newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl ACEHI 2011 i 2021.

Grŵp ethnig

Nododd 2.9 miliwn o’r preswylwyr arferol yng Nghymru eu bod o fewn y grŵp ethnig categori 'Gwyn', 93.8 y cant o'i gymharu â 95.6 y cant yn 2011. Nododd 90.6 y cant yr ateb 'Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig’ yn 2021. Y categori mwyaf nesaf yng Nghymru yn 2021 oedd ‘Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig’ (2.9 y cant), wedi’i ddilyn gan ‘Grwpiau cymysg neu amlethnig’ (1.6 y cant), ‘Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd’ (0.9 y cant) a 'Grŵp ethnig arall' (0.9 y cant).

Ffigur 1: Mapiau’r Cyfrifiad - ethnigrwydd

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Census Maps - Census 2021 data interactive, ONS (Saesneg yn unig)

Hunaniaeth genedlaethol

Nododd dros hanner (55.2 y cant) y preswylwyr arferol yng Nghymru Hunaniaeth 'Cymreig' yn unig, sef 1.7 miliwn o bobl. Mae hyn yn ostyngiad o 57.5 y cant yn 2011. Roedd yr awdurdodau lleol â'r canrannau mwyaf o hunaniaeth 'Cymreig' yn unig yn cynnwys Merthyr Tudful (70.0 y cant), Rhondda Cynon Taf (69.8 y cant), a Chaerffili (69.2 y cant), tra bod gan Sir y Fflint (34.7 y cant) y gyfran leiaf.

Yr hunaniaeth fwyaf cyffredin ymhlith pobl heb hunaniaeth y DU yng Nghymru oedd Pwyleg (0.7 y cant), ac yna Gwyddeleg (0.3 y cant), Rwmaneg (0.2 y cant) ac Indiaidd (0.2 y cant).

Ffigur 2: Mapiau’r Cyfrifiad – hunaniaeth genedlaethol

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Census Maps - Census 2021 data interactive, ONS (Saesneg yn unig)

Crefydd

Roedd 1.4 miliwn o’r preswylwyr arferol yng Nghymru wedi nodi ‘Dim crefydd' yn 2021. Mae hyn yn cynrychioli 46.5 y cant o’r boblogaeth o gymharu â 32.1 y cant yn 2011. Nododd mwy o bobl 'Dim crefydd' nag unrhyw ymlyniad crefyddol unigol. Yng Nghymru a Lloegr, Caerffili (56.7 y cant), Blaenau Gwent (56.4 y cant) a Rhondda Cynon Taf (56.2 y cant) oedd â'r canrannau uchaf o bobl yn dweud 'dim crefydd'.

Disgrifiodd 43.6 y cant o’r preswylwyr arferol (1.4 miliwn) eu crefydd fel ‘Cristion’ yn 2021. Yng Nghyfrifiad 2011 nododd dros hanner (57.6 y cant) preswylwyr Cymru eu bod yn 'Gristnogion'.

Ffigur 3: Mapiau’r Cyfrifiad – crefydd

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Census Maps - Census 2021 data interactive, ONS (Saesneg yn unig)

Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith

Gan fod Cyfrifiad 2021 wedi’i gynnal yn ystod y pandemig COVID-19, mae cyfyngiadau symud a ffyrlo wedi effeithio ar y data o ran y farchnad lafur a theithio i'r gwaith. Ar 21 Mawrth 2021, roedd 1.45 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a hŷn yng Nghymru yn economaidd weithgar (56.5 y cant). Roedd 1.11 miliwn yn economaidd anweithgar (43.5 y cant) ac roedd 631,700 ohonynt wedi ymddeol.

Y diwydiant 'Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol' oedd yn cyflogi'r nifer fwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd, sef 232,700 neu 17 y cant o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn cyflogaeth. Gweithgynhyrchu oedd y diwydiant a welodd y gostyngiad mwyaf mewn cyflogaeth, gan gyflogi 118,800 o bobl (8.7 y cant o’r rhai mewn cyflogaeth) yn 2021 o gymharu â 144,600 (10.5 y cant) yn 2011.

Amcangyfrifodd Cyfrifiad 2021 hefyd fod 350,500 (25.6 y cant) o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn cyflogaeth yng Nghymru yn gweithio gartref neu gartref yn bennaf. Roedd hyn yn ganran is nag yn Lloegr (31.5 y cant).

Ffigur 4: Mapiau’r Cyfrifiad – statws gweithgaredd economaidd

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Census Maps - Census 2021 data interactive, ONS (Saesneg yn unig)

Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU

Cyfrifiad 2021 oedd y cyntaf i ofyn i bobl a ydynt naill ai wedi gwasanaethu yn y lluoedd arferol, y lluoedd wrth gefn neu’r ddau o’r blaen. Dywedodd tua 115,000 o bobl yng Nghymru yn 2021 eu bod wedi gwasanaethu yn flaenorol yn lluoedd arfog y DU. Mae hyn yn cynrychioli 4.5 y cant o’r preswylwyr arferol 16 oed neu’n hŷn. Mae hyn yn ganran uwch na Lloegr lle dywedodd 3.8 y cant (1.7 miliwn) o bobl eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn flaenorol. Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol a ganlyn oedd â’r gyfran uchaf o gyn-filwyr; Conwy (5.9 y cant), Sir Benfro (5.7 y cant) ac Ynys Môn (5.6 y cant).

Ffigur 5: Mapiau’r Cyfrifiad – Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU

 

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Census Maps - Census 2021 data interactive, ONS (Saesneg yn unig)

Pryd y gallwn ddisgwyl gweld datganiadau pellach?

Disgwylir i grynodebau pwnc pellach ar addysg; tai; iechyd, anabledd a gofal di-dâl; a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd gael eu rhyddhau ym mis Ionawr 2023, ynghyd â data ar lefel ward.


Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru