Beth mae Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) yn ei wneud?

Cyhoeddwyd 19/04/2022   |   Amser darllen munudau

Mae pwyllgorau’r Senedd yn pryderu y gallai Bil newydd olygu bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau sy’n perthyn i’r Senedd.

Cafodd Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) ei gyflwyno gerbron y Senedd ar 13 Rhagfyr 2021 gan Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Rydym wedi llunio Crynodeb o’r Bil cyn y ddadl ar ei egwyddorion cyffredinol.

Mae’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth treth sylfaenol drwy reoliadau. Clywodd Pwyllgor Cyllid y Senedd fod y Bil yn codi problemau cyfansoddiadol a phryderon ynghylch y defnydd o bwerau i wneud newidiadau ôl-weithredol i ddeddfwriaeth ar drethi.

Y pwerau yn y Bil

Cynigia’r Bil roi pwerau newydd i wneud rheoliadau i ddiwygio tair Deddf Trethi Cymru i Weinidogion Cymru:

Dywed y Memorandwm Esboniadol ar y Bil y byddai’r pwerau yn cael eu defnyddio i wneud newidiadau brys i ddeddfau treth Cymru mewn ymateb i bedwar senario:

  1. I sicrhau bod trethi datganoledig Cymru yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol;
  2. i ddiogelu rhag osgoi trethi;
  3. i ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, un lle mae gan Gymru dreth ddatganoledig gyfatebol) sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru;
  4. i ymateb i benderfyniadau’r llysoedd/tribiwnlysoedd sy’n effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru, neu a allai effeithio arnynt.

Craffu ar y Bil

Mae Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd wedi craffu ar y Bil.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cydnabod yn llawn bod angen i Weinidogion Cymru fod â’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau allanol er mwyn diogelu’r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Gofynnodd y Pwyllgor “ai’r mecanwaith deddfwriaethol a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn y Bil hwn yw’r ffordd orau o gyflawni hyn.”

Daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i’r casgliad nad “yw’r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ac y dylid ei ystyried yn fesur tymor byr, dros dro yn unig”.

Materion o bwys

Codwyd pryderon mawr ynghylch materion cyfansoddiadol a deddfwriaeth ôl-weithredol.

Dywedodd Syr Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (2011-14) y byddai gan Weinidogion Cymru bwerau i ddiwygio deddfwriaeth trethi drwy reoliadau a fyddai fel arfer yn cael eu cadw ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol.

Roedd yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth, o’r un farn, a dywedodd fod y Bil yn mynd yn groes i wead cyfansoddiadol y DU lle nad oes gan y weithrediaeth “y grym i drethu’r bobl heb ganiatâd y Senedd”.

Pryder allweddol arall yw’r cynnig i Weinidogion Cymru wneud newidiadau ôl-weithredol i ddeddfwriaeth trethi cyn i gyhoeddiad gael ei wneud. Dadleuwyd y byddai pwerau o'r fath yn tanseilio'r egwyddor y dylai'r gyfraith fod yn sicr o ran ei heffaith.

Dywedodd yr Athro Lewis:

If the law can be changed retrospectively, then it means that something which was lawful at the time it was done can be made unlawful, and someone can suffer consequences which they would not have expected to suffer. That makes for uncertainty in the law.

Yn dilyn y ddadl bydd y Senedd yn pleidleisio ar a ddylid caniatáu i’r Bil fynd yn ei flaen. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV ddydd Mawrth 26 Ebrill.

Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am y Bil? Darllenwch ein Crynodeb o’r Bil.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru