Bendith ynteu melltith? Atebion i'ch cwestiynau am e-sgwteri

Cyhoeddwyd 12/10/2022   |   Amser darllen munudau

Rydym i gyd wedi gweld y cynnydd enfawr yn y defnydd o e-sgwteri ar ein strydoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Ond efallai y bydd yn syndod ichi glywed eu bod yn anghyfreithlon ar ffyrdd Cymru. Fodd bynnag, mae cynlluniau ar y gweill i’w cyfreithloni.

Mae'r cwestiynau a gawn gan Aelodau yn awgrymu nad yw’r gyfraith ynghylch e-sgwteri yn eglur i nifer o etholwyr. Mae'r erthygl hon yn ateb rhai cwestiynau cyffredin.

Beth yw e-sgwter?

Mae sgwteri electronig, neu 'e-sgwteri', yn ddyfeisiadau cludiant personol sy'n cael eu pweru â batri - un o nifer cynyddol o gerbydau pŵer 'micro symudedd' ysgafn. Yn y DU maent yn cael eu dosbarthu fel “cludwyr pŵer”, ynghyd â dyfeisiau fel sgwteri Segway, byrddau hofran a sgwteri go-ped.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Er ei bod yn gyfreithlon prynu neu werthu e-sgwter, mae defnyddio e-sgwter preifat ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd neu lonydd beicio yn anghyfreithlon yn y DU. Ac mae'n anghyfreithlon defnyddio unrhyw e-sgwter, preifat neu wedi’i rentu, yng Nghymru.

Mae e-sgwteri yn cael eu hystyried yn gerbydau modur o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Felly rhaid iddynt fodloni rheoliadau adeiladu a defnyddio, a rhaid i ddefnyddwyr gael yswiriant, trwydded yrru, platiau rhif a helmedau.

Gan ei bod yn anodd cydymffurfio â’r gofynion hyn, yn ymarferol dim ond fel rhan o gynllun treialu Llywodraeth y DU (gweler isod), neu gyda chaniatâd ar dir preifat, y gellir eu defnyddio.

Mae Llywodraeth y DU yn tanlinellu mai mater i brif swyddogion heddlu yw gorfodi’r gyfraith yn y cyswllt hwn.

Pam mae e-feiciau’n gyfreithlon ac e-sgwteri’n anghyfreithlon?

Rhaid i gerbydau a ddefnyddir ar y ffordd fodloni gofynion rheoliadau adeiladu a defnyddio.   Mae rheoliadau sy'n llywodraethu beiciau trydan, neu e-feiciau, wedi bod ar waith ers peth amser

Mae'r rhain yn pennu rhai gofynion penodol fel maint y pŵer a gynhyrchir a’r cyflymder y gellir ei gyrraedd â’r pŵer, ac yn ei gwneud yn glir na chaniateir i e-feiciau gael eu defnyddio ar droetffyrdd / palmentydd na chan unrhyw un o dan 14 oed.      

Nid oes rheoliadau cyfatebol yng Nghymru. Fel “cludwyr pŵer”, nid ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu a defnyddio cerbydau modur.

Felly, beth yw’r treialon y mae Llywodraeth y DU yn eu cynnal?

Yn 2020, penderfynodd Llywodraeth y DU ddeddfu i ganiatáu i bobl rentu e-sgwter os ydynt yn byw yn yr awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn y treialon. Er bod y treialon yn agored i awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, dim ond 31 o awdurdodau yn Lloegr sy'n cymryd rhan.

Mae'r gyfraith sy'n sail i'r treialon yn diffinio ‘e-sgwteri’ ac yn diwygio rheoliadau traffig ffyrdd i eithrio e-sgwteri a ddefnyddir yn y treialon rhag rhai o’r gofynion statudol. 

I ddefnyddio e-sgwteri yn ardaloedd y treialon, rhaid eu rhentu, a rhaid iddynt gael eu hyswirio gan y gweithredwr sy’n eu darparu. Rhaid i'r rhai sy’n eu defnyddio fod â thrwydded yrru categori Q (math o drwydded moped), rhaid iddynt gadw at reoliadau traffig ffyrdd, a rhaid iddynt defnyddio'r e-sgwter dim ond ar y ffordd neu mewn lôn feics, ac nid ar y palmant. Nid yw platiau rhif a helmedau’n orfodol.

Mae e-sgwteri sy’n eiddo preifat, neu sydd ar gael i’w rhentu gan weithredwr nad yw’n cymryd rhan yn y treial, yn dal yn anghyfreithlon yn yr ardaloedd sy’n rhan o’r treial, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar dir preifat.

Daw'r cyfnod treialu i ben ar 23 Tachwedd 2022. Gall yr awdurdodau sy'n cymryd rhan yn y treialon ddewis ymestyn y cyfnod tan 31 Mai 2024.

A yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli?

Nac ydi, mater a gadwyd yn ôl yw hwn i raddau helaeth, a hynny oherwydd bod y pwerau dros adeiladu a defnyddio cerbydau modur, troseddau traffig ffyrdd, trwyddedu a chyfarwyddo gyrwyr, yswiriant cerbydau a chofrestru i gyd yn faterion a gadwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU.

Dyna pam mai Llywodraeth y DU a gyflwynodd y treialon hyn.

Fodd bynnag, gallai’r modd y bydd Llywodraeth y DU yn cyfreithloni e-sgwteri effeithio ar rai meysydd datganoledig. Er enghraifft, gan fod arwyddion ffyrdd wedi’u datganoli, byddai unrhyw benderfyniad i ymestyn y treialon i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddiwygio Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig Ffyrdd.

Sut y bydd y gyfraith yn newid?

Gan fod y mater wedi’i ddatganoli i raddau helaeth, cwestiwn i Lywodraeth y DU yw hwn. Roedd araith ddiweddaraf y Frenhines yn cynnwys cynlluniau i gyfreithloni e-sgwteri drwy sefydlu categori newydd ar gyfer cerbydau.

Ym mis Medi, dywedodd Lucy Fraser, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Drafnidiaeth, fod yr Adran Drafnidiaeth wedi rhoi rhaglen monitro a gwerthuso ar waith mewn perthynas â threialon yr e-sgwteri. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi’n “ddiweddarach eleni”. Eglurodd:

It is our intention to use the powers in the Transport Bill to legalise e-scooter use in the future, with robust technical requirements and clear expectations on users. A more appropriate regulatory regime ​for e-scooters will allow the police to enforce regulations more effectively and focus on those using e-scooters in a way that endangers themselves and other road users or pedestrians. The Bill will also include provisions that will subsequently permit local authorities to manage cycle and e-scooter rental schemes, so that they can tailor services to their local area while still ensuring a baseline national standard of service provision.

Eglurodd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynghylch manylion y rheoliadau, a dywedodd y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori cyn i unrhyw drefniadau newydd ddod i rym.

Yng nghyfarfod Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin ym mis Ebrill, tanlinellodd Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y pryd, fod gwahaniaeth rhwng e-sgwteri preifat nad ydynt yn cyrraedd y safon ofynnol, a’r modelau sydd ar gael i’w rhentu. Addawodd y byddai’n llawdrwm ar y farchnad breifat ac y byddai’n ei gwneud yn anghyfreithlon gwerthu e-sgwteri nad oeddent yn cyrraedd y safonau rheoleiddio [arfaethedig]. Pwysleisiodd fod record diogelwch y sgwteri a ddefnyddir mewn treialon yn well na record e-sgwteri preifat.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi tueddu i danllinellu’r ffaith bod y mater hwn wedi’i ddatganoli. Fodd bynnag, mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid yn yr Hinsawdd,  wedi ymateb i gwestiynau am ddiogelwch, gan ei ddisgrifio fel “un o’n prif bryderon”, ac mae wedi tynnu sylw at sylwadau’r RNIB ac eraill ar y mater.

Mae hefyd wedi dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Adran Drafnidiaeth ar gynlluniau cyfreithloni. Bydd manylion penodol unrhyw gynigion polisi a gaiff eu datblygu’n dylanwadu ar yr angen i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, ar wahân i ddiwygio Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig. 

A oes cefnogaeth i’r syniad o gyfreithloni e-sgwteri?

Oes, mae yna alw i gyfreithloni e-sgwteri. Mae eraill yn pryderu am ddiogelwch: Yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n galw am eu cyfreithloni hefyd o blaid  datblygu mesurau rheoli priodol.

Yn 2020 comisiynodd yr Adran Drafnidiaeth ymchwil i agweddau tuag at e-sgwteri. Gwelwyd bod y rhai a oedd o’u plaid yn canolbwyntio ar y manteision o ran yr amgylchedd, hwylustod a chost, a bod y pryderon yn  ymwneud â diogelwch a pha mor briodol yw seilwaith y DU.

Ym mis Ebrill 2022, ysgrifennodd amrywiaeth o sectorau, o’r sector gweithgynhyrchu / manwerthu i brifysgolion, at Lywodraeth y DU yn galw am gyfreithloni e-sgwteri a sicrhau’r safonau diogelwch priodol.

Fodd bynnag, yn 2021 cyhoeddodd yr RNIB astudiaeth a oedd yn tynnu sylw at beryglon defnyddio e-sgwteri, yn enwedig i’r rhai â nam ar eu golwg.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Cyngor Ymgynghorol Seneddol ar Ddiogelwch Trafnidiaeth adroddiad ar Ddiogelwch e-sgwteri preifat yn y DU. Y sail resymegol, fel yr eglura’r adroddiad, oedd nad oedd dim asesiad swyddogol o natur na diogelwch defnyddio e-sgwteri preifat yn cael ei gynnal tra oedd y treialon yn cael eu hadolygu.

Argymhellodd y Cyngor Ymgynghorol Seneddol ar Ddiogelwch Trafnidiaeth y dylid mabwysiadu dull cytbwys a gwrthrychol o weithredu, gan fynd i’r afael ag e-sgwteri preifat sy’n cael eu defnyddio’n beryglus ac yn anghyfreithlon ac ymgynghori ynghylch cyfreithloni. Argymhellodd hefyd y dylid mabwysiadu nifer o safonau ar gyfer eu hadeiladu a’u defnyddio.

Mae elusennau trafnidiaeth gynaliadwy, fel Sustrans, yn gefnogol ar y cyfan cyhyd ag y gellir sicrhau eu bod yn ddiogel.  Yn yr un modd, mae Living Streets yn pryderu y byddant yn cael eu defnyddio ar balmentydd. Hefyd, er bod llawer yn tybio y byddai e-sgwteri’n lleihau allyriadau, mae ymchwil sy'n ystyried e-sgwteri heb ddoc sefydlog, ac a gaiff eu rhannu, yn awgrymu na fyddai hynny’n anochel pan ystyrir y cylch bywyd cyfan, gan gynnwys y broses o’u cynhyrchu a’u cynnal a’u cadw.

Cyhoeddodd Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin adroddiad ar e-sgwteri ym mis Hydref 2020 yn argymell bod yn rhaid i’r Adran Drafnidiaeth ganolbwyntio ar:

…developing and implementing a sensible and proportionate regulatory framework for legal e-scooter use, drawing on lessons from other countries, which ensures that potential negative impacts on pedestrians and disabled people are avoided.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru