Aros yng Nghymru: Dros 86,000 o ddinasyddion Ewrop yn cael caniatâd i aros

Cyhoeddwyd 06/10/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, rhaid i ddinasyddion Ewrop a oedd yn byw yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020 fod wedi gwneud cais i aros erbyn 30 Mehefin 2021.

Ers iddo gael ei lansio, mae dros 6.1 miliwn o geisiadau wedi cael eu cyflwyno i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) yn y DU. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael statws naill ai 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn sefydlu'. I gael gwybodaeth gefndirol, gweler ein herthygl flaenorol.

Erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, roedd 9,330 o geisiadau o Gymru, gan gynnwys 3,360 o bobl o dan 18 oed, yn dal i aros am benderfyniad ar eu statws. Gall oedi o ran penderfyniadau arwain at ystod o broblemau, fel pobl yn cael eu gwrthod am gyflogaeth, tai a gwasanaethau eraill ar gam. 

Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r ystadegau diweddaraf ynghylch ceisiadau o Gymru. Mae'n esbonio'r broses ar gyfer ceisiadau hwyr ac ar gyfer dinasyddion Cymru sy'n byw yn Ewrop.

Beth mae'r ystadegau diweddaraf yn ei ddweud wrthym

Hyd at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar 30 Mehefin, roedd 99,910 o geisiadau o Gymru, ac amcangyfrifwyd bod 95,000 o ddinasyddion cymwys yr oedd angen iddynt wneud cais. Roedd 90,580 o'r rhain wedi cael penderfyniad erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, a chyfeirir atynt fel ceisiadau a gwblhawyd. 

Mae hyn yn golygu bod 9,330 o geisiadau o Gymru heb gael penderfyniad erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, fel y dangosir yn y siart bar isod.

Nifer y ceisiadau o Gymru a oedd wedi cael penderfyniad erbyn y dyddiad cau:

Mae’r siart bar hon yn dangos nifer y ceisiadau o Gymru i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a oedd wedi cael penderfyniad erbyn y dyddiad cau:

Er bod Llywodraeth y DU yn datgan bod ceisiadau fel arfer yn cymryd 5 diwrnod gwaith i'w prosesu, roedd tystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin yn dangos bod mwy na dwy ran o dair o ymgeiswyr wedi aros mis am benderfyniad.

Statws ‘preswylydd sefydlog’ neu ‘breswylydd cyn sefydlu’?

Mae'r siart bar isod yn dangos canran a nifer pob math o ganlyniad a roddwyd i ddinasyddion Ewrop yng Nghymru erbyn y dyddiad cau.

Canlyniadau ceisiadau sydd wedi’u cwblhau yn ôl canran a rhif:

Mae'r siart bar hwn yn dangos canran pob math o ganlyniad a roddwyd i ddinasyddion Ewrop yng Nghymru erbyn y dyddiad cau.

Erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, roedd 57.3 y cant o'r ceisiadau a gwblhawyd o Gymru (51, 880 o geisiadau) wedi cael statws preswylydd sefydlog. I gael statws preswylydd sefydlog, mae’n rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn y DU am bum mlynedd heb absenoldeb o fwy na chwe mis, gyda rhai eithriadau

Cafodd 38.2 y cant o'r ceisiadau a gwblhawyd o Gymru (34,620 o geisiadau) statws preswylydd cyn sefydlu. Rhoddir statws preswylydd cyn sefydlu i ddinasyddion Ewrop sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020.

Gall dinasyddion sy’n breswylwyr sefydlog a’r rhai sy’n breswylwyr cyn sefydlu weithio yn y DU, a chael gafael ar ofal iechyd, addysg ac arian cyhoeddus. Gallant hefyd deithio i mewn ac allan o'r DU a gwneud cais am ddinasyddiaeth. Fodd bynnag, ni all dinasyddion sy’n breswylwyr cyn-sefydlog ddod ag aelodau o'r teulu i ymuno â nhw, a gallent golli eu statws os ydyn nhw'n treulio dwy flynedd y tu allan i'r DU (pum mlynedd ar gyfer y rheini â statws preswylwyr sefydlog). Mae UK in a Changing Europe yn amlygu sut y mae dinasyddion â statws preswylydd cyn sefydlu hefyd yn wynebu gofynion cymhwysedd ychwanegol wrth gael gafael ar gymorth tai cymdeithasol a digartrefedd.

Adroddir ar geisiadau aflwyddiannus hefyd. O Gymru, cafodd 1.6 y cant eu gwrthod (1,420 o geisiadau a gwblhawyd), cafodd 1.4 y cant eu tynnu yn ôl neu roeddent yn wag (1,240 o geisiadau a gwblhawyd), ac roedd 1.6 y cant yn annilys (1,430 o geisiadau a gwblhawyd). 

Bydd angen i ddinasyddion â statws preswylydd cyn sefydlu wneud cais eto os ydynt am aros yn hirach na phum mlynedd.

Daw statws preswylydd cyn sefydlu i ben ar ôl pum mlynedd, a rhaid ei drosi i statws preswylydd sefydlog drwy wneud ail gais. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r 34,620 o ddinasyddion a gafodd statws preswylydd cyn sefydlu cyn y dyddiad cau ac sydd am aros yng Nghymru y tu hwnt i'r terfyn amser wneud cais eto.

Mae'r map rhyngweithiol isod yn dangos nifer y dinasyddion â statws cyn sefydlu ym mhob ardal awdurdod lleol:  

Mae map rhyngweithiol yn dangos nifer y dinasyddion â statws cyn sefydlu ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Pwy sydd wedi gwneud cais o Gymru?

Mae'r ystadegau'n cynnig cipolwg ar bwy sydd wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae edrych ar y ceisiadau yn ôl oedran yn dangos, o’r 99,910 o geisiadau o Gymru:

  • Daeth 79,790 o geisiadau gan bobl 18-64 oed (cwblhawyd 74,270 ohonynt);
  • Ar gyfer y rhai dan 18 oed, roedd 17,030 o geisiadau (cwblhawyd 13,670 ohonynt); ac
  • Roedd 3,090 o geisiadau gan bobl 65+ oed (cwblhawyd 2,650 ohonynt).

Dangosir nifer y ceisiadau a oedd wedi cael penderfyniad erbyn y dyddiad cau ('ceisiadau a gwblhawyd') mewn cromfachau.

Mae edrych ar y ceisiadau yn ôl cenedligrwydd yn dangos bod gwladolion Gwlad Pwyl a Rwmania yn gyson ymhlith yr uchaf o ran nifer y ceisiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ar gyfer Cymru:

  • Cafwyd 30,560 o geisiadau gan ddinasyddion Gwlad Pwyl; a
  • chafwyd 14,850 o geisiadau gan wladolion Rwmania.

Ceisiadau hwyr

Mae ystadegau ar gyfer y DU gyfan yn dangos y cafwyd 108,940 o geisiadau ar ôl y dyddiad cau. Nid yw nifer y ceisiadau hwyr o Gymru ar gael ond bydd rhagor o ddata ar geisiadau hwyr yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU yn cynghori y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar gyfer y rhai sydd â sail resymol am golli'r dyddiad cau, er enghraifft rhiant sydd wedi methu â gwneud cais ar ran plentyn neu rywun sydd â chyflwr meddygol difrifol.

Mae Madeleine Sumption, Cyfarwyddwr yr Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen, yn rhybuddio, er bod canllawiau Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y rhai sy’n gwneud cais hwyr yn cael mantais yr amheuaeth am y tro, mae hyn yn dangos y bydd y drefn yn mynd yn fwy llym dros amser. Mae'n tynnu sylw at y goblygiadau ar gyfer colli'r dyddiad cau, megis colli'r hawl i weithio, rhentu tai, neu gael mynediad at rai triniaethau ysbyty, a’r posibilrwydd o gael eu gorfodi i adael.

Y tu hwnt i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, o Lywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd cyllid ar gyfer ei wasanaeth cyngor a chymorth am ddim ar gyfer dinasyddion Ewrop yn dod i ben ar ddiwedd 2021.

Y tu hwnt i hyn, nid yw'n glir sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi’r rhai sy’n gwneud cais yn hwyr, neu’r 34,620 o ddinasyddion sydd â statws preswylydd cyn sefydlu yng Nghymru a fydd yn gorfod gwneud ail gais i newid eu statws pan ddaw eu statws presennol i ben ar ôl pum mlynedd.

Caiff hawliau dinasyddion Ewrop yn y DU eu monitro gan y corff newydd a sefydlwyd ar ôl Brexit, yr Awdurdod Monitro Annibynnol (IMA). Cyhoeddodd yn ddiweddar ei gynllun blynyddol cyntaf, gan nodi ei flaenoriaethau allweddol, a manylion am ei ymchwiliad cyntaf, a nododd nifer o broblemau parhaus mewn perthynas â’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae hawliau dinasyddion yn rhan allweddol o Gytundeb Ymadael y DU a’r UE sy'n gosod y telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE. Rhaid i Lywodraeth Cymru gadw at y cytundeb hwn ac mae gan bob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau ar gyfer ei weithredu mewn meysydd datganoledig. Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn chwarae rhan bwysig o ran monitro'r maes hwn yn y Chweched Senedd.

Ar gyfer Aelod-wladwriaethau'r UE sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddinasyddion y DU wneud cais am statws preswylydd, mae pob Aelod-wladwriaeth wedi pennu ei therfyn amser ei hun ar gyfer gwneud cais. Y dyddiad cau yw 31 Rhagfyr ar gyfer dinasyddion y DU sy'n byw yn Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Hwngari, Rwmania a Slofenia. Gall pobl o Gymru sy'n byw yn y gwledydd hyn gael rhagor o wybodaeth ar dudalen we'r Comisiwn Ewropeaidd.


Erthygl gan Sara Moran, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru