Amser gweithredu: Cyflwyno'r cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen

Cyhoeddwyd 01/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae addysg plant wedi cael cryn sylw ers dechrau'r pandemig. O fewn y cyd-destun hwn, a saith mlynedd a hanner ers adolygiad nodweddiadol yr Athro Graham Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus, bydd llawer o ysgolion ledled Cymru o’r diwedd yn dechrau addysgu’r Cwricwlwm newydd i Gymru (ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 16 oed) ym mis Medi eleni.

Roedd Dyfodol Llwyddiannus yn darparu'r glasbrint ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn sy'n seiliedig ar ddibenion, gyda mwy o bwyslais ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd fel oedolyn a'r nod o addysgu'r ‘hyn sy'n bwysig’.

Rhoddwyd rôl arweiniol i ysgolion, athrawon a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd, y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd yn ategu ei agenda safonau ysgolion hir sefydlog. Rhwng 2020 a 2021, bu’r Senedd yn craffu ar Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 cyn pasio’r Ddeddf honno a sefydlu’r cwricwlwm newydd.

Mae'r erthygl hon yn cyflwyno ychydig o wybodaeth gefndirol cyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth ar y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Hefyd, mae rhagor o wybodaeth berthnasol ar gael yn yr adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Sut mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno?

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno ym mhob lleoliad meithrin ac ysgolion cynradd a ariennir yn gyhoeddus ym mis Medi. Rhoddwyd dewis i ysgolion uwchradd p’un ai i ddechrau addysgu’r cwricwlwm newydd i ddisgyblion blwyddyn 7 yn 2022/23, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, neu aros am flwyddyn arall nes i’r cwricwlwm newydd ddod yn statudol ar gyfer disgyblion blwyddyn 8 hefyd ym mis Medi 2023.

Yna, caiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno i grŵp blwyddyn hŷn ychwanegol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, hyd nes iddo gyrraedd blwyddyn 11 yn 2026/27. Mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd wedi penderfynu cyflwyno’r cwricwlwm newydd i ddisgyblion blwyddyn 7 ym mis Medi eleni. Mae’r ysgolion hyn wedi’u rhestru yn y Gorchymyn Cychwyn. Y garfan gyntaf i gael cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd fydd blwyddyn 11 yn 2026/27 (hynny yw, plant sydd ar fin gorffen blwyddyn 6 ar hyn o bryd).

Cyflwyno’r Cwricwlwm newydd

Medi 2022

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7 - dewisol i ysgolion

Medi 2023

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Medi 2024

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Medi 2025

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Blwyddyn 10

Medi 2026

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Blwyddyn 10

Blwyddyn 11

Sut beth fydd y cwricwlwm newydd i Gymru?

Mae'r cwricwlwm newydd yn symud i ffwrdd o gwricwlwm cenedlaethol sy’n seiliedig ar gynnwys sy’n gymharol ragnodedig ar hyn o bryd i fframwaith eang sy’n seiliedig ar ddibenion, y bydd ysgolion yn dylunio eu cwricwlwm eu hunain oddi mewn iddo. 

Gall meithrinfeydd a ariennir yn gyhoeddus sy'n darparu addysg i blant 3 i 5 oed ddewis a ydynt am fabwysiadu cwricwlwm y blynyddoedd cynnar y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu ar eu cyfer neu, fel ysgolion, ddylunio cwricwlwm eu hunain o dan y fframwaith cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith y cwricwlwm ar Hwb. Yn wahanol i’r cwricwlwm cenedlaethol presennol, ni fydd unrhyw raglenni astudio yn nodi’n union yr hyn y mae’n rhaid ei addysgu.

Yn ychwanegol at y pedwar diben, caiff Cwricwlwm i Gymru ei strwythuro o gwmpas chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn seiliedig ar “ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig” (hynny yw, y pethau sy’n bwysig i blant a phobl ifanc ddysgu amdanynt), sydd wedi’u nodi mewn cod statudol. Mae “egwyddorion dilyniant” a “disgrifiadau dysgu” yn rhoi manylion lefel uchel am yr hyn y dylid ei gynnwys ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

Bydd tri sgil trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol), Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n addas o ran datblygiad, a gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn orfodol o 3 oed. Bydd Cymraeg yn orfodol o 3 oed a Saesneg o 7 oed. Y rheswm am hyn yw galluogi lleoliadau cyfrwng Cymraeg i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg tan ddiwedd blwyddyn 2.

Cwricwlwm i Gymru

Pedwar diben:

Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
Gyfranwyr mentrus, creadigol
Dinasyddion moesegol, gwybodus
Unigolion iach, hyderus

Chwe maes dysgu a phrofiad:

Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Y Dyniaethau
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mathemateg a Rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Tri sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol:

Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd digidol

Pedair elfen orfodol:

Cymraeg
Saesneg
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Tri chod statudol:

Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig
Y Cod Cynnydd
Y Cod ACRh

Canllawiau:

Statudol ac anstatudol

Sut bydd cynnydd dysgwyr yn cael ei asesu?

Pwysleisiodd y Gweinidog yn y Senedd dim ond yn ddiweddar mai diben asesu yw helpu i lywio’r ffordd y mae athrawon yn cefnogi disgyblion, ar wahân i fesurau perfformiad ac atebolrwydd ysgolion.

Fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau ynghylch trefniadau ar gyfer asesu cynnydd dysgwyr a'r addysgu sy’n angenrheidiol i wneud cynnydd ychwanegol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cod Dilyniant sy’n nodi sut y dylai cwricwlwm ysgol ddarparu ar gyfer dilyniant priodol dysgwyr. Mae’r Cod Dilyniant yn nodi pum egwyddor dilyniant a sut mae’r rhain yn berthnasol ym mhob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae dilyniant dysgwyr (hynny yw, sut y maent yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser) yn gysyniad allweddol o fewn y cwricwlwm newydd, gyda chamau cynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad sy’n nodi lle y disgwylir i ddysgwr gyrraedd erbyn oedrannau penodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Gweinidogol i weithwyr proffesiynol ym maes addysg i hybu a chynnal dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn y mae dilyniant yn ei olygu mewn perthynas â’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau asesu ar gefnogi dilyniant dysgwyr a phontio rhwng y cwricwlwm cenedlaethol a’r Cwricwlwm i Gymru.

Beth sy'n digwydd i gymwysterau?

Mae maint y newid i’r cwricwlwm yn golygu bod yn rhaid i’r cymwysterau y mae pobl ifanc 16 oed yn ymgeisio amdanynt newid yn sylweddol hefyd. Mae'r rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, yn adolygu a diwygio cymwysterau fesul cam, ac mae’r broses hon yn cynnwys nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus.

Bydd angen cwblhau’r holl waith hwn, gyda digon o amser paratoi a chyflwyno, cyn i’r garfan gyntaf o ddisgyblion 16 oed astudio TGAU o dan y cwricwlwm newydd yn 2026/27.

Sut mae craffu ar y diwygiadau i’r cwricwlwm?

Mae diwygio'r cwricwlwm wedi'i drafod a'i archwilio'n aml yn y Cyfarfod Llawn. Ochr yn ochr â hynny, bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar y broses weithredu drwy gyfres o ‘wiriadau’ yn ystod y Senedd hon (hyd at fis Mai 2026), ynghyd â diwygiadau mawr eraill i’r ffordd y caiff disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi. Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth sy’n parhau.

Mae rhai o’r materion sy’n debygol o gael eu hystyried yn cynnwys:

Beth bynnag fydd cynnwys datganiad y Gweinidog yr wythnos nesaf, mae diddordeb yn y ffordd y bydd y cwricwlwm newydd yn gweithio’n ymarferol yn debygol o barhau pan fydd yn amser iddo gael ei weithredu.

Sut i ddilyn y ddadl

Disgwylir i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn tua 17:00 ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022. Gallwch wylio’n fyw ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad ar ôl i’r sesiwn orffen.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru