Adroddiad yn canfod bod y Senedd yn ‘rhy fach’ a bod ‘diffyg amrywiaeth’ yn ei haelodaeth

Cyhoeddwyd 06/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf, ar 7 Hydref 2020 fel rhan o raglen ddiwygio etholiadol barhaus y Senedd.

Mae'r blog hwn yn egluro’n gryno y datblygiadau yn y rhaglen ddiwygio hyd yma ac yn tynnu sylw at brif argymhellion adroddiad terfynol y Pwyllgor.

Diwygio'r Senedd: gwybodaeth gefndirol

Sefydlwyd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad (“y Panel Arbenigol”) ym mis Chwefror 2017 i roi cyngor i’r Llywydd a Chomisiwn y Senedd ynghylch nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y Senedd, y system etholiadol fwyaf addas y dylid ei defnyddio i’w hethol, materion yn ymwneud â meysydd etholiadol y Senedd a’r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Senedd.

Rhannwyd y gwaith diwygio yn ddau gam:

Ym mis Mehefin 2019, penderfynodd Comisiwn y Senedd na fyddai'n bosibl deddfu ar Gam 2 yn ystod cyfnod y Senedd bresennol. Yn lle hynny,sefydlwyd y Pwyllgor ar Dddiwygio Etholiadol y Senedd ym mis Medi 2019 i drafod argymhellion y Panel Arbenigol ni aethpwyd ymlaen â nhw yng Ngham 1.

Gan fod ei adroddiad terfynol bellach wedi’i gyhoeddi, bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu ar ôl y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Hydref 2020.

Dyma ganfyddiadau'r Pwyllgor

Canfu'r Pwyllgor dystiolaeth ‘glir a chryf’ bod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd, a bod diffyg amrywiaeth yn ei haelodaeth. Canfu hefyd fod y system etholiadol bresennol yn cyfyngu ar ddewis i bleidleiswyr ac atebolrwydd Aelodau. Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 32 argymhelliad. Mae rhai o’i brif ganfyddiadau wedi’u crynhoi isod.

Faint o Aelodau y dylai’r Senedd eu cael?

  • Dylid cynyddu maint y Senedd o 60 Aelod i rhwng 80 a 90 Aelod er mwyn gwella llywodraethu a chynrychiolaeth, a chynyddu’r maint o graffu a wneir ar Lywodraeth Cymru.

Sut y dylid ethol yr Aelodau?

  • Dylid ethol Aelodau drwy system etholiadol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) o etholiad 2026 ymlaen.
  • Dylid cyflwyno deddfwriaeth ar ddechrau’r Chweched Senedd i sefydlu trefniadau adolygu ar gyfer ffiniau etholiadol y Senedd.

Sut i ethol Senedd fwy amrywiol?

  • Dylid cael niferoedd cyfartal o fenywod a dynion yn y Senedd, a dylai Aelodau o’r Senedd ddod o amrywiaeth o gymunedau a chefndiroedd amrywiol. Mae'r adroddiad yn argymell camau gweithredu i gyflawni'r nodau hyn.

Sut y gall y Senedd gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'i gwaith?

  • Dylai cyfathrebu am waith y Senedd gyrraedd pawb yng Nghymru, a rhaid iddo annog pobl i bleidleisio a chymryd rhan yn ei gwaith.
  • Dylai'r Senedd ddarparu mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'r Aelodau’n ei wneud a sut mae gwaith y Senedd yn gwneud gwahaniaeth i’r materion sydd o bwys i bobl.

Beth ddylid ei wneud cyn etholiad 2026?

  • Ni ellir cynyddu nifer yr Aelodau cyn 2026. Yn y cyfamser, bydd angen gweithredu mesurau dros dro i helpu’r 60 Aelod o’r Chweched Senedd i gyflawni eu rolau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol yn effeithiol, o bosibl drwy fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a ddysgwyd yn ystod pandemig COVID-19.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru “it makes important recommendations for the future of the Senedd, which will need to be carefully considered by all political parties and will be for the next Welsh Government and Senedd to take forward in terms of legislation."

Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ddydd Mercher 7 Hydref ar Senedd.tv


Erthygl gan Gruffydd Owen, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru