A yw Deddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) 2015 yn gweithio?

Cyhoeddwyd 10/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 15 Chwefror, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Nod y Ddeddf yw:
  • gwella ymateb y sector cyhoeddus i drais yn erbyn menywod, A yw'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) yn gweithio? cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • rhoi i awdurdodau cyhoeddus (fel cynghorau a byrddau iechyd) ffocws strategol ar y mater, a
  • sicrhau bod gwasanaethau ataliol, amddiffynnol a chefnogol yn cael eu darparu mewn ffordd gyson.
Amlygir prif ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth isod, ochr yn ochr â chanfyddiadau'r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru. Pa mor gyflym yw'r broses o roi’r Ddeddf ar waith Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y broses o roi'r Ddeddf ar waith yn araf, mewn rhai meysydd. Mae mwy na 18 mis ers i'r Ddeddf gael ei phasio, ac mae rhai rhannau allweddol o'r Ddeddf heb gael eu cyflawni eto. Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus bod gwasanaethau'n cael eu comisiynu heb ganllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru, ac y gallai hyn arwain at anghysondebau a fyddai'n groes i amcanion craidd y Ddeddf. Tynnodd sylw hefyd at bryderon nad oedd adnoddau digonol a chynaliadwy ar gael i gyd-fynd â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau o ganlyniad i'r Ddeddf. Dyma rai o argymhellion y Pwyllgor:
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi dyddiadau cyflawni arfaethedig ar gyfer y cynllun cyflawni, canllawiau a rheoliadau, gan roi blaenoriaeth i ganllawiau comisiynu; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru gael trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU am y trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer cynghorwyr trais domestig annibynnol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb:
  • “Ystyrir Canllawiau Cydweithredu Amlasiantaeth yng ngoleuni['r] Papur Gwyn Llywodraeth Leol";
  • "Caiff y cynllun ar gyfer cyflwyno Gofyn a Gweithredu ei ddatblygu o fis Gorffennaf 2017";
  • y bwriad yw “ymgynghori ar ganllawiau comisiynu statudol, fel y bo'n briodol, erbyn Gorffennaf 2017”;
  • "Caiff canllawiau eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017"; ac
  • “ni fydd y dangosyddion cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi cyn mis Hydref 2017”.
Mae hefyd yn nodi bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda llywodraeth y DU, ac y bydd yn "cyflwyno dull cyllido rhanbarthol ledled y wlad ar gyfer y Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig o 1 Ebrill, 2018. [..] Bydd 2017-2018 yn flwyddyn bontio a [bydd yn] symud at fodel cyllido a chomisiynu rhanbarthol [yn y dyfodol]." Strategaethau cenedlaethol a lleol Mae Adrannau 3-4 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf, a hynny heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl yr etholiad yng Nghymru (h.y. erbyn 6 Tachwedd 2016). Mae adrannau 5-8 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol baratoi a chyhoeddi strategaethau lleol erbyn mis Mai 2018. Roedd y Pwyllgor yn "siomedig" bod y Ddeddf wedi cael ei phasio fwy na 18 mis cyn yr oedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Strategaeth Genedlaethol, ond nad oedd wedi dechrau ymgynghori ar strategaeth ddrafft tan fis Awst, gan adael mis yn unig cyn y dyddiad cau i wneud diwygiadau a gwelliannau. Dywedodd nifer o dystion wrth y Pwyllgor nad oeddynt yn fodlon ar y drafft, ac yn arbennig nad oedd ystyriaeth wedi ei rhoi i farn pobl a oedd wedi cael eu cam-drin. O ganlyniad, penderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi strategaeth lefel uchel ym mis Tachwedd 2016,  a 'chynllun cyflawni' yn ddiweddarach a fyddai'n rhoi manylion ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni. Roedd y Pwyllgor yn pryderu na fyddai modd gorfodi'r cynllun cyflawni o dan y gyfraith (yn wahanol i'r Strategaeth Genedlaethol), ac na ddarparwyd amserlenni ar gyfer ei gyhoeddi. Yn ogystal, clywodd y Pwyllgor fod strategaethau lleol yn dechrau cael eu datblygu cyn cyhoeddi'r cynllun cyflawni, a allai arwain at anghysondebau o ran dulliau gweithredu strategol. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:
  • egluro statws cyfreithiol y cynllun cyflawni arfaethedig, a’i gyhoeddi fel canllawiau statudol yn ddelfrydol, er mwyn sicrhau y gellir ei orfodi;
  • amlinellu pryd y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi, a sut y bwriedir ymgynghori yn ei gylch, a
  • sicrhau bod y deg argymhelliad ynglŷn â goroeswyr sydd yn yr adroddiad Are you listening, am I being heard? yn cael eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr.
Nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru y caiff "statws cyfreithiol y Fframwaith Cyflawni ei ystyried gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd gan y Grŵp Cynghori i ddatblygu'r cynllun, gyda mewnbwn gan y Grŵp Swyddogion Traws-lywodraethol. Bydd y Grŵp Cynghori'n craffu ar y fframwaith cyn ei gyhoeddi" ac "Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd yn penderfynu ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r Fframwaith". Addysg Mae adran 9 o'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol. Mae adran 10 yn rhoi i Weinidogion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) y pŵer i gyhoeddi canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch. Roedd addysg yn fater dadleuol yn ystod hynt y Ddeddf. Cynigiwyd, yn y Papur Gwyn cyntaf ar y ddeddfwriaeth yn 2012, y byddai'r Bil yn sicrhau ei bod yn orfodol i bob ysgol ddarparu addysg ar berthynas iach ag eraill. Ni chafodd y cynnig hwn ei gynnwys yn y Bil drafft. Yn ôl y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Bil, roedd addysg ar berthnasoedd iach yn cael ei hystyried fel rhan o'r adolygiad o'r cwricwlwm dan arweiniad yr Athro Graham Donaldson, yn lle hynny. Byddai hwn yn cynnwys adolygiad o'r cwricwlwm sylfaenol gan gynnwys Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Cyflwynwyd y ddyletswydd yn adran 9 fel gwelliant y Llywodraeth yn ystod hynt y Ddeddf. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth y Pwyllgor y byddai'r rheoliadau o dan adran 9 yn cael eu datblygu’n gynnar yn 2017. Nid yw'n eglur pryd y bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau cyflwyno adroddiadau. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:
  • ymrwymo i gynnwys addysg am berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd o dan y Maes Dysgu a Phrofiad 'Iechyd a Lles';
  • prysuro i baratoi rheoliadau sy'n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynglŷn â sut y maent yn arfer eu swyddogaethau i hyrwyddo diben y Ddeddf. Dylai hefyd ymrwymo i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau cyflwyno adroddiadau erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017/18;
  • amlinellu sut y bydd addysg ar berthnasoedd iach a chydsynio yn cael sylw gan sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn drwy ddweud ei bod yn bosibl "y bydd cyfleoedd i gael gwybodaeth a data ar yr hyn y mae lleoliadau addysg o fewn awdurdodau lleol yn ei gyflawni ar hyn o bryd o ran darpariaeth addysg sy'n deillio o'r Ddeddf, gan sefydliadau allanol sydd wrthi'n gwella'r broses o gyflwyno Addysg Perthnasoedd Iach mewn ysgolion". Mae'n mynd ymlaen i nodi:
Bydd y gwaith o ddatblygu'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnwys ystyried dulliau o gyflwyno Addysg Perthnasoedd Iach ac felly mae posibilrwydd y gellir ystyried hyn yn rhan o'r gwaith cyffredinol sy'n cael ei gyflawni.
Nododd Llywodraeth Cymru, o ran yr argymhelliad ynglŷn â chyrff addysg bellach ac uwch, "caiff hyn ei ystyried gyda chydweithwyr Addysg Uwch gan gyfeirio at brosiectau sydd eisoes ar waith o fewn Addysg Bellach ac Uwch." Cynghorydd Cenedlaethol Mae adran 20 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi Cynghorydd Cenedlaethol i roi cyngor, monitro gweithrediad y Ddeddf a chynnal gwaith ymchwil. Canfu'r Pwyllgor mai swydd ran-amser yw un y Cynghorydd Cenedlaethol, sy'n golygu bod ei dylanwad a'r baich gwaith y gall ymdopi ag ef yn gyfyngedig. Nododd hefyd nad oedd cynllun gwaith y Cynghorydd wedi'i baratoi mewn modd a oedd yn cyd-fynd â'r Strategaeth Genedlaethol, gan arwain unwaith eto at y posibilrwydd o anghysondebau. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:
  • Adolygu capasiti swydd y Cynghorydd Cenedlaethol, gan ystyried dyrannu adnoddau ychwanegol iddi i gefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol a chynnal gwaith ymchwil;
  • Egluro pa gosbau sydd ar gael i Weinidogion Cymru os nad yw awdurdod cyhoeddus yn cyflawni gofynion y Ddeddf, a
  • Chyfeirio at y Cynghorydd Cenedlaethol, ei chyfrifoldebau a'i chynllun gwaith yn y cynllun cyflawni sydd i ddod ac unrhyw strategaethau yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod ac ystyried yr argymhellion hyn â'r Cynghorydd Cenedlaethol ac “wedi cytuno i'w adolygu'n barhaus”. O ran pwerau, mae'r ymateb yn nodi bod gan Weinidogion Cymru y grym i "gyfarwyddo" awdurdod i gymryd camau priodol, ond nid yw'n manylu pa bwerau i gosbi sydd ar gael.
Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru