A fydd digonedd o bysgod yn y moroedd?

Cyhoeddwyd 11/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Medi 2013 [caption id="attachment_271" align="alignright" width="246"] Ffynhonnell: Comisiwn Ewropeaidd[/caption] Ym mis Mehefin 2013, daeth Aelod-wladwriaethau ac Aelodau Seneddol yr Undeb Ewropeaidd i gytundeb a all fod yn hanesyddol ynghylch diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Hwn yw’r polisi sy’n pennu’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfer holl bysgota yn nyfroedd yr Undeb Ewropeaidd y tu hwnt i 12 milltir fôr oddi ar yr arfordir. O dan y Polisi, mae pob Aelod-wladwriaeth yn cael yr hyn a elwir yn gwota am wahanol rywogaethau o bysgod. Dyma gyfanswm y pysgod y caiff ei fflyd bysgota eu dal. Unwaith y bydd Aelod-wladwriaeth yn cyrraedd y cwota, bydd yn rhaid i’w chychod roi’r gorau i ddal y pysgod hynny neu eu glanio. Dros y degawd diwethaf, beirniadwyd y Polisi gan grwpiau cymdeithas sifil a chan lywodraethau Ewrop am iddo fethu â mynd i’r afael â physgota ar lefel anghynaliadwy ac â’r cwymp yn niferoedd rhai pysgod yn yr UE. Er nad yw’r manylion am y system ariannol ar gyfer cyflawni’r polisi hwn – sef Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop – wedi cael eu cytuno eto, mae rhanddeiliaid wedi croesawu’r cynigion i sicrhau y bydd pysgodfeydd yn fwy cynaliadwy o dan yr hyn a gytunwyd yn y prif ddiwygiad. Ymysg y cynigion allweddol bydd:
  • Gofyn i bob pysgodfa gael ei physgota ar raddfa gynaliadwy fel y caniateir i bysgod gryfhau o ran nifer erbyn 2020;
  • Gofyn i bob pysgodfa gael cynllun rheoli ar lefel yr ecosystem;
  • Cynigion i gael gwared ar yr arfer o daflu pysgod sydd dros ben yn ôl. Hwn yw’r arfer o daflu pysgod marw yn ôl i’r môr yn lle eu glanio am fod pysgotwr eisoes wedi cyrraedd y cwota a gafodd am y math hwnnw o bysgod;
  • Gofyn i Aelod-wladwriaethau fynd i’r afael â gorgapasiti ei fflyd bysgota. Gwneir hyn i sicrhau nad yw nifer y cychod a’r busnesau pysgota’n fwy na chwota gwlad;
  • Cynigion i wella’r broses o gasglu gwybodaeth a monitro.
Yng Nghymru, mae’r mwyafrif o gychod yn ein fflyd bysgota yn rhai bach ac yn arfordirol eu natur. Ymysg y problemau pennaf a nodwyd ar gyfer fflyd Cymru y mae’r effaith y mae cychod pysgota mawr o Aelod-wladwriaethau eraill yn ei chael ar yr amgylchedd morol wrth iddynt bysgota yn nyfroedd Cymru. Yn y gorffennol, ychydig oedd yr arfau a oedd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r hyn yr oedd y cychod hyn yn ei wneud, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd cynigion newydd ar gyfer rheoli mwy rhanbarthol o’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn caniatáu iddi ddatblygu cytundebau ag Aelod-wladwriaethau eraill i leihau rhywfaint o effaith y cychod hyn. Mae’r polisi newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau ddyrannu’r cwota yn ôl meini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n drylwyr ac yn wrthrychol. Mae hefyd yn annog Aelod-wladwriaethau i roi mynediad ffafriol i’r cwota pysgota ar gyfer fflydoedd o gychod arfordirol llai ac i gychod y mae effaith eu pysgota ar yr amgylchedd yn llai. Gall hyn gryfhau gallu Llywodraeth Cymru i negodi i fflyd Cymru gael cyfran fwy o gwota pysgodfeydd y DU. Yn draddodiadol, mae rhan fawr o gwota pysgodfeydd y DU wedi mynd i fusnesau masnachol mawr a chanddynt gychod dros 12 metr o hyd. Daw’r gofynion newydd i rym o fis Ionawr 2014, gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu gweithredu yn nyfroedd Cymru, sy’n ymestyn i ffin forol y DU ag Iwerddon. Mae Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth fôr a physgodfeydd newydd i Gymru erbyn mis Tachwedd 2013. Erthygl  gan Nia Seaton.