Crynodeb o'r Bil: Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Cyhoeddwyd 04/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf. Mae'r Bil yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd ar hyn o bryd ac mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu arno.

Os caiff ei basio, bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn darparu'r sylfaen statudol ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r cwricwlwm ar gyfer plant 3 i 16 oed. Bydd yn disodli'r cwricwlwm cenedlaethol presennol yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1988 ar sail Cymru a Lloegr, â Chwricwlwm newydd i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn raddol o fis Medi 2022.

Mae'r papur hwn yn rhoi crynodeb o ddarpariaethau'r Bil, gan dynnu sylw at y prif agweddau a dogfennau perthnasol, ynghyd â rhoi rhywfaint o gefndir polisi.

Darllenwch y briff yma: Crynodeb o'r Bil: Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (PDF, 744KB)


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru