Cyhoeddiad Newydd: Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: cyflwyniad

Cyhoeddwyd 16/05/2019   |   Amser darllen munudau

Y papur briffio hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o dri sy’n darparu canllaw cyflym ar addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Mae’n cyflwyno’r cysyniad o addysg a gofal plentyndod cynnar, yn dangos tystiolaeth am wahanol ddulliau gweithredu o ran addysg a gofal plentyndod cynnar, ac yn cysylltu hyn â pholisi cyfredol yng Nghymru.

Lluniwyd y papur briffio hwn gan Dr David Dallimore o Ysgol y Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor fel rhan o Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd gwasanaeth Ymchwil y Senedd y Cynulliad, i gynorthwyo Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt graffu ar y ddarpariaeth addysg a gofal plentyndod cynnar.

Cyhoeddiad Newydd: Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Cyflwyniad (PDF, 1,144KB)


Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Bangor a alluogodd Dr Dallimore i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth hon.