Caiff Cyfraddau Treth Incwm Cymru eu cyflwyno yng Nghymru o fis Ebrill 2019: beth fydd hyn yn ei olygu i drethdalwyr Cymru?

Cyhoeddwyd 29/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 6 Ebrill 2019, bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar gyfer 2019-20 ac ymlaen.

Beth yw Cyfraddau Treth Incwm Cymru?

Llywodraeth fydd Cymru yn gyfrifol am bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Ar hyn o bryd, mae holl drethdalwyr Cymru yn talu treth incwm i Lywodraeth y DU.

Strwythur presennol treth incwm

O fis Ebrill 2019, bydd Llywodraeth y DU yn torri 10c ar bob un o'r tair cyfradd treth incwm a delir gan drethdalwyr Cymru. Yna bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chyfraddau ei hun ym mhob band treth, a drafodwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Ionawr 2019 ac a bennwyd fel 10c.

Beth fydd hyn yn ei olygu i drethdalwyr Cymru?

Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn talu 10c o bob cyfradd treth incwm i Lywodraeth Cymru, gan dalu'r gweddill i Lywodraeth y DU. Ni fydd unrhyw effaith ar drethdalwyr Cymru oherwydd bydd cyfraddau treth incwm yn aros ar yr un lefel â'r hyn sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd i Lywodraeth y DU.

Strwythur treth incwm datganoledig

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd mewn dadl yn y Cynulliad nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, sef 2021 ar y cynharaf.

Pa bwerau newydd fydd gan Lywodraeth Cymru?

Dim ond pwerau i newid Cyfraddau Treth Incwm Cymru fydd gan Lywodraeth Cymru, nid y bandiau treth incwm na'r trothwy lwfans personol, a fydd yn parhau gyda Llywodraeth y DU.

Sut y caiff Treth Incwm Cymru ei chasglu?

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fydd yn gyfrifol am gasglu treth incwm, gyda refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Felly, ni fydd trethdalwyr Cymru yn gweld unrhyw newidiadau i'r ffordd y caiff y dreth ei chasglu.

Sut ydw i'n gwybod os ydw i'n drethdalwr yng Nghymru?

Bydd unigolion yn cael eu hadnabod fel trethdalwyr yng Nghymru at ddibenion Cyfraddau Treth Incwm Cymru os mai Cymru os yw eu prif breswylfa. Ni fydd lle mae unigolyn yn gweithio yn effeithio ar ei statws fel trethdalwr, sy'n golygu os yw unigolyn yn gweithio yn Lloegr ond yn byw yng Nghymru y caiff ei gyfrif yn drethdalwr yng Nghymru.

Bydd trethdalwyr yng Nghymru hefyd yn cael cod treth newydd sy’n dechrau â ‘C’ i sicrhau eu bod yn talu’r cyfraddau treth cywir.

Faint o dreth incwm y byddaf yn ei thalu i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru?

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi datblygu offeryn treth incwm gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru sy'n amcangyfrif faint y byddai trethdalwr yng Nghymru yn ei dalu i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Beth fyddai effaith newid cyfraddau treth incwm Cymru?

Mae hefyd modd defnyddio'r offeryn treth incwm i weld beth yw effaith newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru ar incwm unigolion a Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Christian Tipples ac Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru