Bil Cymru drafft a'r model cadw pwerau

Cyhoeddwyd 08/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Hydref 2015 Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Senedd Gyda fersiwn ddrafft o Fil Cymru newydd yn ddisgwyliedig yr hydref hwn, mae'r trafod ynghylch effaith ac effeithiolrwydd tebygol y model cadw pwerau yn dwysáu. Fis Chwefror diwethaf, eglurodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau ar gyfer Bil Cymru newydd yn y Papur Gorchymyn Pwerau ar Bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy'n para dros Gymru, a oedd yn cynnwys symud at fodel cadw pwerau datganoli. Ers hynny mae’r Papur Gorchymyn wedi bod yn destun craffu a thrafod gan wleidyddion, academyddion, arbenigwyr cyfreithiol ac eraill sydd â diddordeb yn y ffordd y gallai setliad newydd Cymru edrych yn dilyn refferendwm yr Alban. Y model "cadw pwerau" oedd un o brif argymhellion ail adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli yng Nghymru yn 2014. Yn y model, nodir y pwerau a gedwir gan Lywodraeth y DU, gyda phob pŵer arall yn cael ei ddatganoli i'r Cynulliad. Ar hyn o bryd, datganolir pwerau i Gymru trwy'r model "rhoi pwerau" - hynny yw, fe'u nodir yn ffurfiol - yn arbennig, o dan 20 pennawd yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Roedd Comisiwn Silk o'r farn y byddai model cadw pwerau o ddatganoli, sef y model a ddefnyddir yn yr Alban, yn cynnig mwy o ran sicrwydd, eglurder a symlrwydd. Mae'r ffaith bod tri achos ar ddeddfwriaeth y Cynulliad wedi mynd gerbron y Goruchel Lys er 2011 yn awgrymu nad yw'r model rhoi pwerau cyfredol yng Nghymru yn bodloni'r meini prawf hyn. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad gasgliadau ei ymchwiliad byr i gynigion datganoli Llywodraeth y DU (gweler blog cynharach Angen hyblygrwydd). Awgrymodd tystiolaeth i'r Pwyllgor y bydd y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei llunio o bwys mawr i effeithiolrwydd y model newydd. Dywedodd Llywydd y Cynulliad wrth y Pwyllgor ei bod hi o'r farn na ddylai'r canol gadw dim heblaw'r hyn na ellir ei wneud ar lefel genedlaethol ddatganoledig - h.y. dylid seilio'r setliad ar yr egwyddor o sybsidiaredd - a dylai'r setliad newydd gadw a datblygu cymhwysedd cyfredol y Cynulliad. Bellach, mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned Gyfansoddiadol Llundain yn mynegi amheuon cryf am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn datblygu'r ddeddfwriaeth newydd. Mae'r adroddiad yn dadlau nad rhestr o bwerau a gedwir a phwerau a ddatganolir y dylid ei defnyddio i lunio model pwerau cadw, eithr egwyddorion y cytunwyd arnynt. Yn ôl yr adroddiad, nid yw Pwerau at Bwrpas yn cyflawni hyn. Un pwynt dadleuol yn Pwerau at Bwrpas yw'r cynnig i gadw cyfraith droseddol a chyfraith sifil. Dadl yr adroddiad yw bod y rhain yn ffyrdd o gyflawni polisi yn hytrach na phynciau polisi ynddynt eu hunain, ac y byddai cadw'r rhain yn:
significantly undermine the ability of the national assembly to make laws in relation to devolved functions such as health, the environment or housing if it could not make the necessary provisions to give effect to its legislation.
Awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru Yn yr adroddiad, amlygir y ffaith bod awdurdodaeth ar wahân yn absennol o setliad datganoli cyfredol Cymru. Mae'r adroddiad yn dadlau bod angen, mewn rhyw ffordd, fynd i'r afael ag absenoldeb system gyfreithiol ar wahân yng Nghymru (fel y'u ceir yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon) cyn y gall y model cadw pwerau weithio yn effeithiol. Trwy'r dull arloesol hwn, ceid awdurdodaeth ar wahân heb yr angen am seilwaith cyfreithiol ar wahân i Gymru, ac yn hynny o beth gallai fod yn fwy derbyniol yn wleidyddol. Ymchwiliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn fanwl mewn ymchwiliad yn 2012. Er bod Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn gweld datblygiad o'r fath yn anochel, nid yw Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn credu bod angen awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Yn ddiweddar, dywedodd wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin, "I do not think it is a barrier to achieving what we are trying to do, which is to get clarity." Bellach disgwylir am i Fil Cymru drafft gael ei gyhoeddi tua diwedd mis Hydref. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth y Pwyllgor Materion Cymreig y bydd y Bil ei hun yn dilyn yn fuan wedyn:
Early 2016, it will get published in its final form, in its First Reading, and it will have its Second Reading before the purdah period, before the Assembly elections. Then we are into a new parliamentary year, so it will be what we call a carry-over Bill; start in this parliamentary year and carry over to the next one. I would hope by the end of 2016, early 2017, this will receive Royal Assent, but that is tentative
Mae pwyllgorau yn y Cynulliad ac yn San Steffan yn paratoi i graffu ar y Bil drafft yr hydref hwn. Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad eisoes wedi cynnal digwyddiad rhagarweiniol i randdeiliaid a bydd yn dechrau cymryd tystiolaeth ym mis Tachwedd mewn gwaith craffu sy'n debygol o fod yn fyr ac yn ddwys.   Bydd y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn ymgymryd â gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil drafft ym mis Hydref a mis Tachwedd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg